Yng ngoleun'r sefyllfa bresennol o ran y Coronafeirws, mae holl gyfarfodydd y CIC sydd wyneb yn wyneb wedi'u canslo ar unwaith. Byddwn yn darparu diweddariadau pan fyddwn yn gwybod mwy. Yn y cyfamser, os bydd angen i chi gysylltu â ni ffoniwch 01639 683490
Helpwch ni i’ch helpu chi
Ar adegau anodd neu drafferthus, gall rhai pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad. Efallai y bu amgylchiadau trist neu ofidus yn arwain at y gŵyn. Ni ystyriwn ymddygiad fel un annerbyniol dim ond am fod rhywun yn rymus neu’n benderfynol.
Credwn y dylai pob achwynydd fod â’r hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Fodd bynnag, mae’r un hawliau yn berthnasol i’n staff. Felly, disgwyliwn i chi fod yn gwrtais a foesgar wrth ymwneud â ni. Ni fyddem yn cydymddwyn ag ymddygiad ymosodol neu amharchus, nac orchmynion neu ddyfalbarhad afresymol.