Er mwyn gwneud ein gwaith, mae angen adborth oddi wrth gleifion neu'r cyhoedd ar bob agwedd o wasanaethau'r GIG, yn enwedig oddi wrth bobl sydd â phrofiadau diweddar. Cedwir eich hunaniaeth yn gyfrinachol. Os byddai'n well gennych e-bostio eich sylwadau, mae croeso i chi wneud hynny drwy'r cyfeiriad e-bost isod
Ymchwiliad Covid-19 y DUSefydlwyd Ymchwiliad Covid-19 y DU i archwilio parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Bydd profiadau pobl yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu'n briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad. Bydd tîm yr ymchwiliad hefyd yn craffu ar y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni (Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru) siarad â phobl am eu profiadau yn ystod y pandemig a chasglu adborth gan y cyhoedd yng Nghymru. Caiff y wybodaeth hon ei bwydo i'r ymchwiliad. Rydym yn gwneud hyn mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys yr arolwg hwn.
|
|
Rydym wedi bod mewn argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang am beth amser. Rydyn ni'n gwybod pa mor anodd mae hi wedi bod i bawb - ac yn arbennig i bobl sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus.
Os ydych chi'n derbyn gofal y GIG ar hyn o bryd neu wedi bod yn aros amser hir oherwydd rydych chi angen neu'n defnyddio gwasanaethau'r GIG yn rheolaidd efallai eich bod chi'n teimlo'n bryderus iawn.
Fel eich corff gwarchod cleifion GIG, mae CICau dros Gymru am barhau i chwarae ein rhan wrth adlewyrchu barn pobl a chynrychioli eich diddordebau yn y GIG ar yr adeg dyngedfennol hon ac wrth i'r GIG geisio adfer o'r pandemig.
Byddwn yn rhannu gyda'r GIG yr hyn y mae pobl a chymunedau lleol yn ei ddweud wrthym. Mae hyn er mwyn iddynt allu gweld beth mae pobl yn meddwl sy'n gweithio'n dda a gweithredu i wella gofal lle mae angen hyn - cyn gynted ag y mae'n bosibl gwneud hynny.
Yn ystod 2021/2022, byddwn yn cyflwyno rhaglen o weithgaredd ymgysylltu a chraffu i gefnogi ein blaenoriaethau lleol. Gweler isod ddolenni i'r arolwg: -
Arolwg o brofiad cleifion mewnol
Arolwg Mynediad cleifion at feddygon teulu
Hoffai CIC BA hefyd glywed eich adborth/profiadau am wasanaethau'r GIG. Gweler isod:-
Eich Profiad o Wasanaethau’r GIG
Gofal Nyrsio Sylfaenol
Beth yw eich profiad o’r gofal sy’n cael ei ddarparu yn y Gymuned?