Drwy gydweithio, mae'r Bwrdd a CICau yn tynnu sylw at faterion sy'n effeithio ar brofiadau pobl ledled Cymru, neu a fydd yn effeithio arnynt. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth leol i lywio'r agenda genedlaethol a herio llunwyr polisi a'r rhai sy'n darparu ein gwasanaethau i wneud yn well.
Rydym yn gwneud mwy na chynnig ymatebion i faterion a godir gan eraill; rydym yn cyflwyno’r achos dros newid mewn perthynas â'r materion hynny sydd bwysicaf i gleifion a'r cyhoedd, gan ddisgrifio’r meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau, a dwyn y GIG yng Nghymru i gyfrif am ei berfformiad.
Ymchwiliad Covid-19 y DUSefydlwyd Ymchwiliad Covid-19 y DU i archwilio parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Bydd profiadau pobl yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu'n briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad. Bydd tîm yr ymchwiliad hefyd yn craffu ar y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni (Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru) siarad â phobl am eu profiadau yn ystod y pandemig a chasglu adborth gan y cyhoedd yng Nghymru. Caiff y wybodaeth hon ei bwydo i'r ymchwiliad. Rydym yn gwneud hyn mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys yr arolwg hwn.
|
|
Rydym wedi bod mewn argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang am beth amser. Rydyn ni'n gwybod pa mor anodd mae hi wedi bod i bawb - ac yn arbennig i bobl sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus.
Os ydych chi'n derbyn gofal y GIG ar hyn o bryd neu wedi bod yn aros amser hir oherwydd rydych chi angen neu'n defnyddio gwasanaethau'r GIG yn rheolaidd efallai eich bod chi'n teimlo'n bryderus iawn.
Fel eich corff gwarchod cleifion GIG, mae CICau dros Gymru am barhau i chwarae ein rhan wrth adlewyrchu barn pobl a chynrychioli eich diddordebau yn y GIG ar yr adeg dyngedfennol hon ac wrth i'r GIG geisio adfer o'r pandemig.
Byddwn yn rhannu gyda'r GIG yr hyn y mae pobl a chymunedau lleol yn ei ddweud wrthym. Mae hyn er mwyn iddynt allu gweld beth mae pobl yn meddwl sy'n gweithio'n dda a gweithredu i wella gofal lle mae angen hyn - cyn gynted ag y mae'n bosibl gwneud hynny.