Mae gan Gynghorau Iechyd Cymuned hawl statudol i ymweld ag ysbytai, clinigau a sefydliadau gofal sylfaenol lle darperir gwasanaethau gan y GIG. Mae hyn yn cynnwys meddygfeydd Meddygon Teulu, deintyddfeydd, optegwyr, fferyllwyr a chartrefi nyrsio.
Gallwn gyhoeddi ein hymweliadau neu gallant fod yn ddirybudd.
Mae cysondeb, effeithlonrwydd a sensitifrwydd yn ffactorau pwysig pan fydd ymweliadau monitro yn cael eu cynnal ac mae’n rhaid i aelodau ymgymryd â hyfforddiant yn ogystal â derbyn unrhyw gyfarwyddyd a fydd yn eu cynorthwyo i gyflawni’r dyletswyddau hyn.
Adroddiad Canlyniadau’r Ymweliadau Monitro a Chraffu 2019/2020
Noder - Oherwydd y pandemig coronafeirws a newidiadau mewn arferion gwaith, nid ydym yn cynnal ymweliadau fel rhan o'n swyddogaethau Monitro a Chraffu ar hyn o bryd. Hefyd, mae ymatebion y Bwrdd Iechyd i adroddiadau monitro wedi cael eu gohirio.